top of page

CROESO

Yr Oriel Llun Mewn Ffrâm

Mae'r Oriel Llun Mewn Ffrâm yn cynnig gwasanaeth fframio lluniau a hefyd yn hybu gwaith artistiaid yn yr oriel a’r gweithdy bach ond effeithiol ym Mhenygroes ger Caernarfon. Yn rhan anatod o'r gymuned, mae'r busnes wedi bod yn rhedeg ers dros 30 o flynyddoedd. Yn ddiweddar mae'r busnes wedi newid dwylo gydag Aaron rwan yn cymryd yr awennau gan Meical.

  • Facebook
  • Instagram
IMG_9674.jpg
Photo 19-09-2024, 10 24 44.jpg

GWASANAETH FFRAMIO

Rydym yn ymfalchio yn y gwasanaeth o safon a ddarparwn i artistiaid yn ogystal â gallu cynnig gwasanaeth bersonol i'r gymuned i fframio gwaith celf a chelfi sy'n arbennig i chi. 

ARTISTIAID

Rydym yn hynod falch o arddangos gwaith artistiaid talentog lleol yn Yr Oriel Llun Mewn Ffrâm. Dewch i ddarganfod mwy am yr artistiaid a'r ysbrydoliaeth tu ôl i'r gwaith.

image0.jpeg

Sioned Glyn

"Dwin ymddiddori mewn bob math o gelf gwahanol yn enwedig Caligraffi Celtaidd. Dwi hefyd yn ymddiddori mewn cofnodi enwau llefydd yng Nghymru. Credaf  yn gryf ei fod yn bwysig i ni gofio enwau gwreiddiol ein trefi, mynyddoedd ac afonydd  ein gwlad."

IMG_6876.JPG

Janice Williams

Yr wyf yn enedigol o Gaernarfon ond wedi byw yn Y Groeslon ers dros hanner can mlynedd erbyn hyn, yn rhedeg busnes gwnio yn fy nghartref. Mae gennyf ddiddordeb erioed mewn arlunio, mewn dyfrliw ac acrylic, boed yn dirlun neu bortread.  

1000019404.jpg

Peter Hedd Williams

"Y cyfan rydw i'n ei geisio trwy fy nghelf yw, yn gorfforol, gyda'r defnydd o frwsh, paent a chynfas, i greu cofnod parhaol, personol o fy nheimladau, fy emosiynau ac yn anad dim, fy nghariad at ble rydw i'n byw."

IMG_8158.jpeg

Meirion Jones

"Mae fy ngwaith yn ymwneud â phobl a'r tir.

Ac mae edrych am batrymau a ffurfiau yn y ddaearyddiaeth yn apelio'n fawr ataf ynghyd ag awgrymu straeon yn y lluniau o bobl. Er i mi arddangos fy ngwaith dros y ffin, mae'n llawer gwell gennyf gysylltu ar lefel artistig gydag eneidiau hoff gytun."​​​

IMG_0247.jpeg

Joanna Jones

"Er fy mod i’n paentio ambell i bortread, tirwedd ac arfordir Cymru yw’r ddau brif cymhelliad yn fy ngwaith celf sy’n digwydd yn y stiwdio yn Aberteifi. Wrth i’r blynyddoedd basio mae’r arddull yn ymryddhau ac yn fwy arbrofol."​

​​​​

amgueddfa[14].png

Anna Pritchard

"Rwyf yn ddylunydd tecstiliau o Ogledd Cymru. Daw yr ysbrydolaeth gan fy amgylchedd, hanes a diwidiant ffermio. Fel teulu rydym yn un o’r teuleuoedd hynaf sydd yn dal yn gweithredu yn y byd amaeth yn ardal Dyffryn Ogwen. Mae fy neunyddiau wedi cael eu hysbrydoli gan draddodiadau ffermio ac yn dogfennu hanes a’r traddodiadau hynny."

IMG_9005.jpeg

Aneurin Owen

Ysbrydolir gwaith Aneurin gan y tirwedd o gylch ei gartref yn Llansannan. Dyma ardal ei fagwriaeth, ardal o fryniau tawel amaethyddol sy'n toddi i mewn i fynydd-dir Hiraethog. Ar y gorwel mae Eryri i'r gorllewin a'r goleuni dros fawnogydd Hiraethog yn symud yn gyflym ac yn creu eiliadau gwefreiddiol. Ceisio dal yr eiliadau o oleuni yma a wna Aneurin gan ddefnydio palet tywyll yn aml ond gyda dyfnderlliw yn y tywyll er mwyn chwyddo effaith yr ardaloedd golau yn y tirlun.

PHOTO-2025-04-03-14-46-16.jpg

Stephen John Owen

​Mae gan Stephen ei arddull unigryw ei hun o beintio. Mae ei angerdd yn parhau i esblygu a datblygu ac mae’n chwilio’n barhaus am ysbrydoliaeth o’i amgylchoedd.

 

Mae’n dal cymeriad arbennig y pentrefi, y ffermydd a’r hen fythynnod chwarelwyr sydd wedi ei amgylchynu ar hyd ei oes yn syml ac yn ddidwyll. Mae'n arwisgo'r golygfeydd cyfarwydd hyn gydag urddas a dynoliaeth.

PHOTO-2025-05-29-11-43-38.jpg

Huw Gwynne

"Dwi'n mwyhau bod allan yn cerdded mynyddoedd Eryri neu'n lonyddwch traethau'r ardal ac mi fyddaf pob tro gyda fy nghamera neu ffôn allan i dynnu lluniau fel ysbrydoliaeth ar gyfer fy nghelf. Er yn arthro llawn amser rwyf yn treulio  fy amser sbar yn arlunio, gan baentio morluniau a thirluniau lleol."

​​

PHOTO-2025-06-16-10-47-10 5.jpg

William Selwyn

Ganed Williams Selwyn yng Nghaernarfon ym 1933. Ym 1954, ar ol treulio dwy flynedd o Wasanaeth Cenedlaethol gyda’r Royal Artillery, astudiodd yn Y Coleg Normal, Bangor tan 1956. Wedi hynny bu’n athro yn Ysgol Iau Maesincla ac Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon hyd ei ymddeoliad ym 1990. ​​

500e8383-7429-496a-833e-f5cad241cd77.JPG

Neil Jones

Ganwyd a magwyd Neil yn y Fron ger Caernarfon. Bellach yn byw yn y Groeslon, mae'n artist hunan gyflogedig rhan-amser tra hefyd yn gwneud gwaith fel plastrwr. Mae lliwiau yn bwysiig i Neil wrth iddo fynd ati i beintio lluniau o hen adfeilion yn y Dyffryn mewn acrylig.​

d097e721-af5b-4b4c-a3d9-9948542202a6.JPG

Jack Crabtree  (1938 - 2026)

"Nid mater o weld yn unig yw peintio, ond o feddwl. Mae paentiad yn dda neu’n wael yn ôl cryfder, rhesymeg a mynegiant ei elfennau haniaethol.”​

Dyna eiriau Jack Crabtree ei hun pan yn 22 oed. 

FFOTOGRAFFWYR

Dyma waith ffotograffwyr talentog yr ardal. Darllenwch mwy am eu gwaith a gweld eu gwaith.

PHOTO-2025-04-10-11-52-44.jpg

Meic Roberts

PHOTO-2025-05-02-11-24-41.jpg

Gethin Roberts

EIN STORI NI GAN GWENNO TILL

PHOTO-2025-06-16-09-07-40 5.jpg

TOCYN
ANRHEG

Oriau Agor

Llun - Gwener - 8yb - 5yh

Sadwrn - 8yb - 12yh

Mae oriau agor yn amrywio. Rydym yn argymell i chi gysylltu ar y rhif mobil cyn galw.

Cyfeiriad

Yr Oriel Llun Mewn Ffrâm

Penygroes

Caernarfon 

LL54 6NG

  • Facebook
  • Instagram

Lleoliad

Cysylltwch

Diolch am eich neges!

bottom of page